Ymhle mae’r prosiect?

Mae’r prosiect O’r Mynydd i’r Môr yn gweithio mewn ardal o Ganolbarth Cymru, o ucheldiroedd garw Cambria i lawr drwy ddyffrynnoedd coediog i Foryd y Ddyfi ac allan i ardaloedd morol-warchodedig Bae Ceredigion. Mae ardal y prosiect yn ymestyn ar draws gogledd Ceredigion a gorllewin Powys.

Masiff Pumlumon yw’r wahanfa ddŵr fwyaf yng Nghymru. Yn y fan hon mae tarddle’r afonydd Hafren a Gwy – sef yr afon hiraf a’r bumed hiraf ym Mhrydain, yn y drefn honno – sy’n llifo tua’r dwyrain drwy Gymru ac i mewn i Loegr, yn ogystal â’r Rheidol sy’n llifo tua’r gorllewin i’r môr yn Aberystwyth.

Mae ardal y prosiect yn gorgyffwrdd â gwarchodfa Biosffer Dyfi ac yn cynnwys Gwarchodfa Natur Genedlaethol Dyfi, yn ogystal â nifer o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, yn cynnwys Ardal Cadwraeth Arbennig Pen Llyn a’r Sarnau.

Beth sy’n arbennig am yr ardal hon?

Cynefinoedd amrywiol

Mae ystod amrywiol o fathau o gynefinoedd, yn cynnwys glaswelltir pori ucheldirol, coetiroedd collddaill, tir pori iseldirol, morfeydd heli, systemau twyni, llynnoedd ac afonydd dŵr croyw, cyforgors rhyngwladol bwysig, moryd sy’n gartref i weilch yn nythu, a riffiau morol. Mae’r cymunedau sy’n byw yma’n falch o’r ardal ryfeddol ond anadnabyddus hon o Gymru, ac mae’n hawdd gweld pam.  

Tirwedd mewn trafferth

Mae Cymru wedi colli cyfran sylweddol o’i chynefin naturiol, gan gynnwys 44% o’r rhostir ucheldirol a 30% o’i systemau twyni sy’n goeth â bywyd gwyllt. Dim ond 12% o’r coetir yng Nghymru sy’n hynafol neu’n lled-naturiol, ac mae llawer o hwnnw wedi diraddio a darnio. Mae’r golled hon wedi arwain at ddirywiad parhaus dros y 30 mlynedd diwethaf yn y nifer o rywogaethau adar bridio a bywyd gwyllt allweddol arall sydd ganddi.

Mae ecosystemau bregus gwely’r môr yn cael eu difrodi gan dreillwyr crwydrol sydd, am na orfodir y rheoliadau o gwbl, neu bron o gwbl, yn pysgota’n anghyfreithlon bob hyn a hyn ym Mae Ceredigion.

Mae’r ardal yn wynebu amrywiaeth o fygythiadau ecolegol a chymdeithasol: mae’r cynnydd yn lefelau’r môr yn bygwth ein cymunedau arfordirol ac mae llifogydd, sychder a chyfnodau o dywydd eithafol yn digwydd yn amlach ac yn achosi mwy o ddifrod. Yn y cyfamser, mae nifer y pryfed yn dirywio’n ddifrifol, ac mae eu rôl hwythau mewn peilliad yn peri gofid difrifol ym maes ffermio a chynhyrchu bwyd.

Mae’r systemau byw yr ydym yn eu colli yn effeithio nid yn unig ar yr amgylchfyd gwledig deniadol – maen nhw’n darparu’r swyddogaethau ecolegol yr ydym oll yn dibynnu arnynt.

Traddodiad hynafol o ddefnyddio’r tir a’r môr

Mae natur a diwylliant wedi eu gwau yn agos â’i gilydd yn yr ucheldiroedd, yr iseldiroedd a morlin Mynyddoedd Cambria, a datblygodd hynny drwy hanes hir o bobl yn cydweithio’n agos â’r tir a’r môr.

Mae’r cymunedau hyn o bobl sy’n rheoli, defnyddio a chynaeafu ein hadnoddau naturiol nid yn unig yn tanategu’r economi lleol ond nhw yw’r sail gadarn ar gyfer treftadaeth ddiwylliannol yr ardal, gan roi iddi synnwyr o le. Mae’r hanes hwn yn llawer hŷn na’r colli cynefinoedd sydd wedi bod yn gwaethygu yn y pedwar degawd diwethaf, a bydd gan arferion a doethineb traddodiadol nifer o atebion i’w cynnig. Mae 88% o Gymru’n cael ei ffermio felly gallai cefnogi arferion rheoli tir sy’n garedig i fyd natur gael effaith enfawr ar adar, infertebratau a bywyd gwyllt arall.

Gyda phwy y byddwn yn gweithio 

Byddwn yn gweithio gyda phobl sydd:

  • yn berchen ar adnodd naturiol – er enghraifft coedwigoedd, ffermydd, eiddo preifat, cyhoeddus ac elusennol 
  • yn rheoli adnodd naturiol – pysgotwyr, coedwigwyr, ffermwyr, darparwyr twristiaeth, awdurdodau lleol
  • yn defnyddio adnoddau naturiol – cymuned leol, ymwelwyr

Nid yw’r prosiect hwn yn cynnwys unrhyw gylch gwaith ar gyfer caffael tir, yn orfodol nac fel arall. Mae llwyddiant y prosiect yn dibynnu ar gyfranogaeth wirfoddol ac ymgysylltiad rhwng perchnogion a defnyddwyr y tir. Mae’n bwysig canfod, ar frys, fodelau sy’n torri tir newydd ar gyfer defnyddio a gwarchod tir sy’n gweithio gyda’r perchnogion tir i gyd er budd byd natur.

Pam ‘O’r Mynydd i’r Môr’?

Dydy prosesau ecolegol ddim yn digwydd mewn ardaloedd bach, taclus. Mae dynodiadau traddodiadol fel Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac Ardaloedd Cadwraeth Arbennig yn bwysig, ond dydyn nhw ddim yn gallu gwneud mwy ynddynt eu hunain na rheoli gwerddonau penodol o fyd natur, neu rywogaeth benodol.

Wrth i ddiraddiad amgylcheddol a cholli bywyd gwyllt barhau, mae’n amlwg bod angen i’r ddynoliaeth feddwl yn fwy – yn fwy uchelgeisiol, yn fwy optimistaidd ac, yn hanfodol, yn fwy unedig. Mae’r prosiect hwn yn un o nifer gynyddol o brosiectau sy’n gweithio ar ‘raddfa’r dirwedd’, sef ffordd o weithio sy’n dechrau dod i’r amlwg ac sydd â’r nod o ddiogelu brithwaith o dirweddau rhyng-gysylltiedig er mwyn caniatáu i fywyd gwyllt symud, mudo a rhyngweithio.