Fyddwn ni yn cynnal mwy o sesiynau galw heibio yn 2020, ac wedi bod yn adlewyrchu ar ei’n sesiynau ar ddiwedd flwyddyn ddiwethaf.
Ar ddiwedd 2019 wnaethom ni cynnal saith sesiwn galw heibio. Daeth dros 130 o’r gymuned i ymuno a ni i drafod y prosiect, ei gobeithio’n, pryderon a syniadau. Diolch yn fawr iawn i bawb wnaeth dod.
Rydym yn ymddiheuro am y byr rybudd am y sesiynau yma ac am gadarnhau bydd yna nifer o gyfleoedd arall i bobl cymryd rhan yn y prosiect dros y misoedd nesaf.
Mae gennym ni ddau sesiwn galw heibio yn digwydd yn fuan:
- Dydd Gwener 24ain Ionawr, rhwng 15.00 a 18.00 yn Ganolfan Machinations, Llanbrynmair
- Dydd Mercher 5ed Chwefror rhwng 15.00 a 18.00 yn Y Ganolfan, Aberhosan
Fydd manylion unrhyw sesiynau arall yn cael ei chyhoeddi ar y wefan.
Os ydych chi am i ni gynnal sesiwn yn eich cymuned chi, neu roi sgwrs am y prosiect mae croeso i chi cysylltu â Siân Stacey, Cydlynydd Ymgysylltu ar Gymuned y prosiect.
Mi fyddwn ni yn cael crynodeb cyflawn o’r sesiynau ar brif themâu a thrafodaethau wnaeth codi yn ystod rhain ar ei’n wefan yn fuan.
Postiadau blog diweddar
Rhannu Glasbrint y Prosiect
Dros yr 18mis diwethaf mae’r prosiect O’r Mynydd i’r Môr wedi bod yn gwahodd ystod eang o bobl i gymryd rhan yn cyd-ddylunio dyfodol lle mae natur a phobl yn ffynnu yn Ganolbarth Cymru. Mae’r prosiect wedi cynnal gweithdai, sgyrsiau, sesiynau galw heibio a channoedd o...
Archwilio gweledigaeth ar gyfer ein tir a môr gyda Menter Mynyddoedd Cambria
Yn ystod 2021 wnaeth Fenter Mynyddoedd Cambria a phrosiect O’r Mynydd i’r Môr cydweithio ar ymchwil gyda ffermwyr a rheolwyr adnoddau naturiol. Mae’r ymchwil hwn yn archwilio: Beth yw’r berthynas ar hyn o bryd rhwng busnes a natur? Beth yw dyheadau busnesau ar gyfer y...
Instagram Live – Diweddariad ar y prosiect gyda TAIR
Ar yr 14 Chwefror wnaeth TAIR, artistiaid preswyl y proeist, gael sgwrs efo Siân Stacey, Swyddog Ddatblygu'r Prosiect, am lle mae'r prosiect wedi cyrraedd a sut mae'r proses cyd-ddylunio yn mynd. Gallwch wylio'r sgwrs, sydd yn Gymraeg a Saesneg isod. Gweithdy...