O’r Mynydd i’r Môr / Summit to Sea
Dysgu: Prosiect Tir a MôrPartneriaeth Llŷn ac ACA Pen Llŷn a’r Sarnau sy’n arwain ar brosiect cydweithredol sy’n canolbwyntio ar ddatrys rhai o’r problemau sy’n effeithio ar adnoddau naturiol yn yr ardal ar y Tir a’r Môr sy’n amgylchynu’r Penrhyn Llŷn.
Nod y prosiect hwn yw cynnal ac ehangu stribyn di-dor o gynefinoedd amrywiol ar hyd ar arfordir sy’n cydredeg â Llwybr Arfordir Cymru. Mae’r prosiect yn datblygu arfer da ym maes rheoli dalgylch afon a rheoli rhywogaethau goresgynnol, gan gynnig buddion economaidd a chymdeithasol sylweddol wrth gyplysu’r gwaith â chynlluniau i wella amaethyddiaeth ac adnoddau cymdeithasol-ddiwylliannol.
Mae’r prosiect hefyd yn treialu model ffermio ‘talu am ganlyniadau’ ar dair fferm sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Y nod yw edrych ar fodel ffermio newydd all gael ei ddilyn mewn ardaloedd eraill yn y dyfodol.

Mae’r ddwy bartneriaeth wedi datblygu dull cydweithredol o weithredu’n lleol, gan ganiatáu i bawb gydweithio i ddatblygu a gweithredu cynlluniau gwaith ymarferol yn gyflym ac yn ddi-dor, ac yn annog pawb yn yr ardal i gydweithio i roi’r prosiect ar waith.
Bydd elfen gryf o ymgysylltu â’r gymuned ehangach drwy gynnal digwyddiadau a mynd i ysgolion lleol yn rhan o’r prosiect.
Gobaith Alison Hargrave, sydd yng nghyd reoli’r prosiect Tir a Môr, yw dod â dysgu ac adfer da o’r prosiect hon a’i gwaith blaenorol i brosiect O’r Mynydd i’r Môr.
Mae’n hollol bwysig bod prosiectau newydd yn adeiladu ar waith blaenorol a phresennol, bod nhw yn dysgu gan eraill ac yn rhoi buddeiliaid lleol yng nghreiddiau’r prosiect.
I ddysgu mwy am y prosiect Tir a Môr ewch i:
Neu dilynwch ei chyfryngau cymdeithasol
Postiadau blog diweddar
Rhannu Glasbrint y Prosiect
Dros yr 18mis diwethaf mae’r prosiect O’r Mynydd i’r Môr wedi bod yn gwahodd ystod eang o bobl i gymryd rhan yn cyd-ddylunio dyfodol lle mae natur a phobl yn ffynnu yn Ganolbarth Cymru. Mae’r prosiect wedi cynnal gweithdai, sgyrsiau, sesiynau galw heibio a channoedd o...
Archwilio gweledigaeth ar gyfer ein tir a môr gyda Menter Mynyddoedd Cambria
Yn ystod 2021 wnaeth Fenter Mynyddoedd Cambria a phrosiect O’r Mynydd i’r Môr cydweithio ar ymchwil gyda ffermwyr a rheolwyr adnoddau naturiol. Mae’r ymchwil hwn yn archwilio: Beth yw’r berthynas ar hyn o bryd rhwng busnes a natur? Beth yw dyheadau busnesau ar gyfer y...
Instagram Live – Diweddariad ar y prosiect gyda TAIR
Ar yr 14 Chwefror wnaeth TAIR, artistiaid preswyl y proeist, gael sgwrs efo Siân Stacey, Swyddog Ddatblygu'r Prosiect, am lle mae'r prosiect wedi cyrraedd a sut mae'r proses cyd-ddylunio yn mynd. Gallwch wylio'r sgwrs, sydd yn Gymraeg a Saesneg isod. Gweithdy...