O’r Mynydd i’r Môr / Summit to Sea
Galwad am Artistiaid PreswylRydym yn hapus iawn i gyhoeddi lansiad rhaglen artistiaid preswyl a fydd yn cymryd lle yn ardal y prosiect yma dros y flwyddyn nesaf. Mae Gwobr Preswyliadau a Chelfyddydau Artistiaid Tirweddau mewn Perygl yn agor am geisiadau ar 7 Ionawr 2021, ac yn derbyn ceisiadau tan 7 Chwefror 2021. Fydd y preswyliadau yn cychwyn ym Mehefin 2021 ac yn rhedeg tan Ebrill 2022. Mae yna wobr o hyd at £3,500 yn gysylltiedig efo’r preswyliad yma, gyda’r cyfle am £1,800 pellach drwy wobr celfyddydau.
Mae’r rhaglen yn chwilio am artistiaid sydd â diddordeb mewn cysylltu cymunedau lleol â thirwedd drwy’r celfyddydau a diwylliant, yn enwedig y rhai y gall ailgysylltu pobl â byd natur a chyfleu’r heriau a chyfleoedd y mae adfer tirwedd yn eu darparu. Bydd angen i bob artist ymgymryd ag agwedd ar ymgysylltu â’r cyhoedd fel rhan o’u preswyliad. Gallai hyn fod yn ganlyniad, er enghraifft, o osodiad celf ryngweithiol, arddangosfa, darlleniad barddoniaeth, cyhoeddiad, perfformiad, neu waith celf gyhoeddus. Mae’n hanfodol fod yr artist, neu grŵp o artistiaid efo cysylltiad sylweddol â’r dirwedd yma.
Am fwy o wybodaeth ac i gyflawni cais i’r preswyliaeth ewch i wefan y rhaglen yma.
Postiadau blog diweddar
Rhannu Glasbrint y Prosiect
Dros yr 18mis diwethaf mae’r prosiect O’r Mynydd i’r Môr wedi bod yn gwahodd ystod eang o bobl i gymryd rhan yn cyd-ddylunio dyfodol lle mae natur a phobl yn ffynnu yn Ganolbarth Cymru. Mae’r prosiect wedi cynnal gweithdai, sgyrsiau, sesiynau galw heibio a channoedd o...
Archwilio gweledigaeth ar gyfer ein tir a môr gyda Menter Mynyddoedd Cambria
Yn ystod 2021 wnaeth Fenter Mynyddoedd Cambria a phrosiect O’r Mynydd i’r Môr cydweithio ar ymchwil gyda ffermwyr a rheolwyr adnoddau naturiol. Mae’r ymchwil hwn yn archwilio: Beth yw’r berthynas ar hyn o bryd rhwng busnes a natur? Beth yw dyheadau busnesau ar gyfer y...
Instagram Live – Diweddariad ar y prosiect gyda TAIR
Ar yr 14 Chwefror wnaeth TAIR, artistiaid preswyl y proeist, gael sgwrs efo Siân Stacey, Swyddog Ddatblygu'r Prosiect, am lle mae'r prosiect wedi cyrraedd a sut mae'r proses cyd-ddylunio yn mynd. Gallwch wylio'r sgwrs, sydd yn Gymraeg a Saesneg isod. Gweithdy...