O’r Mynydd i’r Môr / Summit to Sea
Instagram Live – Diweddariad ar y prosiect gyda TAIRAr yr 14 Chwefror wnaeth TAIR, artistiaid preswyl y proeist, gael sgwrs efo Siân Stacey, Swyddog Ddatblygu’r Prosiect, am lle mae’r prosiect wedi cyrraedd a sut mae’r proses cyd-ddylunio yn mynd. Gallwch wylio’r sgwrs, sydd yn Gymraeg a Saesneg isod.
Gweithdy creadigol gyda TAIR – 23/02/22
Fydd TAIR yn cynnal gweithdy creadigol i gasglu syniadau ar gyfer dyfodol O’r Mynydd i’r Môr. Sesiwn greadigol 90 munud 16:30-18:00, dydd Mercher 23 Chwefror, yn Ganolfan Owain Glyndŵr, Machynlleth. Fydd y sesiwn yn cynnwys trafodaeth am yr eirfa sy’n perthyn i ardal y prosiect, a gwahodd pobl i wneud collage gan ddefnyddio lluniau o blanhigion a phethau sy’n perthyn i dirwedd yr ardal – gan obeithio y byddwn yn gallu defnyddio’r collage a’r drafodaeth fel sail ar gyfer brand newydd i’r prosiect.
Postiadau blog diweddar
Rhannu Glasbrint y Prosiect
Dros yr 18mis diwethaf mae’r prosiect O’r Mynydd i’r Môr wedi bod yn gwahodd ystod eang o bobl i gymryd rhan yn cyd-ddylunio dyfodol lle mae natur a phobl yn ffynnu yn Ganolbarth Cymru. Mae’r prosiect wedi cynnal gweithdai, sgyrsiau, sesiynau galw heibio a channoedd o...
Archwilio gweledigaeth ar gyfer ein tir a môr gyda Menter Mynyddoedd Cambria
Yn ystod 2021 wnaeth Fenter Mynyddoedd Cambria a phrosiect O’r Mynydd i’r Môr cydweithio ar ymchwil gyda ffermwyr a rheolwyr adnoddau naturiol. Mae’r ymchwil hwn yn archwilio: Beth yw’r berthynas ar hyn o bryd rhwng busnes a natur? Beth yw dyheadau busnesau ar gyfer y...
Datblygu syniadau gydag amaethwyr a chynhyrchwyr bwyd
Ar yr 2il o Fedi, cynhaliwyd cyfarfod agored prosiect O’r Mynydd i’r Môr ar y cyd gyda Menter Mynyddoedd Cambria, ar fferm Moelgolomen Tal y Bont, Ceredigion. Y bwriad oedd rhannu datblygiadau’r prosiect a rhoi cyfle i mwy o bobl yr ardal fwydo mewn i’r broses cyd...