O’r Mynydd i’r Môr / Summit to Sea
Pennod newydd i’r brosiectMae O’r Mynydd i’r Môr wedi cyhoeddi bod un o’i wyth partner, Rewilding Britain, yn camu i’r neilltu oddi wrth y prosiect.
Mae’r penderfyniad yn dilyn adborth gan aelodau o’r gymuned ac undebau ffermwyr a oedd yn anhapus â’r modd yr oedd Rewilding Britain yn gysylltiedig â’r prosiect. O ganlyniad, roedd partneriaid O’r Mynydd Môr – gan gynnwys Rewilding Britain – yn teimlo bod angen gwneud newidiadau i’r ffordd yr oedd y prosiect yn cael ei gynnal.
Ar ôl gwrando ar bryderon y rheini sy’n byw a gweithio yn yr ardal, mae grŵp llywio O’r Mynydd i’r Môr yn gobeithio y gall edrych i’r dyfodol nawr a gweithio ochr yn ochr â phobl leol er mwyn clywed eu barn nhw ynglŷn â sut y gall y prosiect fod o fantais i’r economi lleol a’r amgylchedd.
Meddai cyfarwyddwr O’r Mynydd i’r Môr, Melanie Newton:
“Mae’r gymuned wrth galon prosiect O’r Mynydd i’r Môr, ac felly mae barn pobl leol yn hanfodol i’r partneriaeth.
“Mae grŵp llywio’r prosiect – gan gynnwys Rewilding Britain – wedi ystyried y pryderon a godwyd gan bobl leol ac undebau ffermio ac wedi penderfynu gwneud newidiadau i’r ffordd y caiff O’r Mynydd i’r Môr ei reoli. Rydym bellach yn awyddus i symud ymlaen gyda’r gymuned ac arwain y ffordd tuag at ddyfodol sydd o fudd i bawb.”
Bydd sesiynau ymgysylltu’r gymuned, a fydd yn dechrau yng nghanol mis Tachwedd eleni, yn ffurfio sut y caiff arian O’r Mynydd i’r Môr ei wario ac i ba fusnesau a sefydliadau y caiff grantiau eu dyfarnu. Gallai mentrau gynnwys unrhyw beth o sefydlu busnesau sy’n ymwneud â natur sydd o fudd yn gymdeithasol ac yn economaidd, i weithio gyda ffermwyr i ddatblygu syniadau eu hun ar gyfer rheoli tir yn gynaliadwy.
Mae O’r Mynydd i’r Môr yn awyddus i glywed gan unrhyw un sydd â diddordeb yn niwylliant, amgylchedd ac economi Cymru. Mae’r prosiect yn gobeithio y gall, gyda help aelodau o’r gymuned, sefydlu ac adeiladu ar gynlluniau a fydd yn cadw tirweddau a bywoliaeth am genedlaethau i ddod.
Caiff gwybodaeth am y sesiynau galw i mewn ei rhannu ar wefan a chylchlythyr O’r Mynydd i’r Môr.
I gysylltu â ni e-bostiwch gwybodaeth@ormynyddirmor.cymru
Postiadau blog diweddar
Rhannu Glasbrint y Prosiect
Dros yr 18mis diwethaf mae’r prosiect O’r Mynydd i’r Môr wedi bod yn gwahodd ystod eang o bobl i gymryd rhan yn cyd-ddylunio dyfodol lle mae natur a phobl yn ffynnu yn Ganolbarth Cymru. Mae’r prosiect wedi cynnal gweithdai, sgyrsiau, sesiynau galw heibio a channoedd o...
Archwilio gweledigaeth ar gyfer ein tir a môr gyda Menter Mynyddoedd Cambria
Yn ystod 2021 wnaeth Fenter Mynyddoedd Cambria a phrosiect O’r Mynydd i’r Môr cydweithio ar ymchwil gyda ffermwyr a rheolwyr adnoddau naturiol. Mae’r ymchwil hwn yn archwilio: Beth yw’r berthynas ar hyn o bryd rhwng busnes a natur? Beth yw dyheadau busnesau ar gyfer y...
Instagram Live – Diweddariad ar y prosiect gyda TAIR
Ar yr 14 Chwefror wnaeth TAIR, artistiaid preswyl y proeist, gael sgwrs efo Siân Stacey, Swyddog Ddatblygu'r Prosiect, am lle mae'r prosiect wedi cyrraedd a sut mae'r proses cyd-ddylunio yn mynd. Gallwch wylio'r sgwrs, sydd yn Gymraeg a Saesneg isod. Gweithdy...