O’r Mynydd i’r Môr / Summit to Sea
Rhannu Glasbrint y ProsiectDros yr 18mis diwethaf mae’r prosiect O’r Mynydd i’r Môr wedi bod yn gwahodd ystod eang o bobl i gymryd rhan yn cyd-ddylunio dyfodol lle mae natur a phobl yn ffynnu yn Ganolbarth Cymru. Mae’r prosiect wedi cynnal gweithdai, sgyrsiau, sesiynau galw heibio a channoedd o gyfarfodydd un i un, i sicrhau fod gymaint o bobl ac sy’n bosib wedi cael y cyfle i fewnbynnu a ddatblygu syniadau all ddod i’r afael efo’r sialensiau rydym yn wynebu efo colled bioamrywiaeth a newid hinsawdd.
Dros y Gaeaf mae tîm y prosiect wedi dod a phopeth sydd wedi cael eu rhannu efo’r prosiect at ei gilydd mewn i un ddogfen sydd yn dangos yr uchelgais a’r weledigaeth a glywyd. Mae’r prosiect wedi clywed am awydd dwys i fynd i’r afael â heriau’r dyfodol mewn modd gadarnhaol, i feddwl yn fyd-eang a gweithredu’n lleol, nid i ymateb i agenda eraill a naratifau pellennig, ond i adeiladu ar y gorau o’r hyn sydd gennym ni. Bwriadwn ddysgu o’n hanes cyfoethog yn ein tirwedd a’i ddatblygu, i gyd-ddysgu a manteisio ar y cyfleoedd dysgu ychwanegol boed yn lleol neu yn bellach o’n cynefin, ac o ganlyniad i arloesi a chysylltu’n lleol er mwyn cael effaith ar raddfa eang. Hoffem weld cymuned wedi’i grymuso sydd yn cydweithio gan osod rheolaeth a pherchnogaeth o flaenoriaethau gyda randdeiliaid lleol, gan rannu ein harferion, ein haddysg a’n gwybodaeth gyda balchder ac awydd i wella ein hardal ar gyfer natur, ni’n hunain, ein gwesteion a’n cwsmeriaid, ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
“Dwi’n cyffroes iawn i rannu’r Glasbrint yma efo pobl. Mae wedi bod yn fraint dod a mewnbwn pawb mewn i’r ddogfen yma at rwy’n edrych ymlaen at gyd-weithio gyda phobl a sefydliadau ar ddatblygu’r Glasbrint mewn i realiti”
Mae’r Glasbrint ar gael i unrhyw un ei ddarllen ar wefan y prosiect. Dros y misoedd nesaf fyddwn yn datblygu syniadau penodol o’r Glasbrint mewn i nifer o gynigion i gronfeydd. Os ydych chi efo diddordeb yn datblygu’r cynigion yma, ac eisiau gwybod mwy am sut i gymryd rhan yn y prosiect cysylltwch â Siân Stacey, Swyddog Ddatblygu’r Prosiect drwy e-bostio sian.stacey@ormynyddirmor.cymru
Postiadau blog diweddar
Archwilio gweledigaeth ar gyfer ein tir a môr gyda Menter Mynyddoedd Cambria
Yn ystod 2021 wnaeth Fenter Mynyddoedd Cambria a phrosiect O’r Mynydd i’r Môr cydweithio ar ymchwil gyda ffermwyr a rheolwyr adnoddau naturiol. Mae’r ymchwil hwn yn archwilio: Beth yw’r berthynas ar hyn o bryd rhwng busnes a natur? Beth yw dyheadau busnesau ar gyfer y...
Instagram Live – Diweddariad ar y prosiect gyda TAIR
Ar yr 14 Chwefror wnaeth TAIR, artistiaid preswyl y proeist, gael sgwrs efo Siân Stacey, Swyddog Ddatblygu'r Prosiect, am lle mae'r prosiect wedi cyrraedd a sut mae'r proses cyd-ddylunio yn mynd. Gallwch wylio'r sgwrs, sydd yn Gymraeg a Saesneg isod. Gweithdy...
Datblygu syniadau gydag amaethwyr a chynhyrchwyr bwyd
Ar yr 2il o Fedi, cynhaliwyd cyfarfod agored prosiect O’r Mynydd i’r Môr ar y cyd gyda Menter Mynyddoedd Cambria, ar fferm Moelgolomen Tal y Bont, Ceredigion. Y bwriad oedd rhannu datblygiadau’r prosiect a rhoi cyfle i mwy o bobl yr ardal fwydo mewn i’r broses cyd...