O’r Mynydd i’r Môr / Summit to Sea
Sesiynau Galw Heibio Haf 2021Drwy gydol Haf 2021 bydd y prosiect yn cynnal sesiynau galw heibio ar draws ardal y prosiect i gasglu syniadau, rhannu sut mae syniadau’n datblygu a chasglu adborth gan y gymuned. Bydd y sesiynau hyn yn anffurfiol ac yn gyfle i bobl ofyn cwestiynau a chymryd rhan yn y broses ddylunio.
- Ydych chi’n angerddol am sicrhau dyfodol lle mae natur a phobl yn ffynnu?
- Oes gennych chi syniadau am enghreifftiau da o sut allwn ni gefnogi natur?
- Ydych chi’n gweithio ar y tir neu yn y môr ac efo profiadau i rannu?
Dewch am sgwrs efo Siân, Swyddog Prosiect O’r Mynydd i’r Môr er mwyn darganfod mwy am sut mae’r prosiect wedi newid a sut allwch fod yn rhan o’r broses cyd-ddylunio dros yr Haf. Rydym hefyd yn cynnal sesiynau galw heibio rhithiol, gwelwch isod i gofrestru am rhain.
Dwi’n gwybod pa mor bwysig yw gwrando ar y rhai sy’n gweithio’r tir a’r môr, a’r amrywiaeth o bobl sy’n ffurfio’r gymuned, gan ddenu arbenigwyr mewn meysydd penodol o brofiadau byw fel ffermwyr neu bysgotwyr i arbenigwyr mewn agweddau gwyddonol penodol. Mae’n wych cael mwy a mwy o bobl leol yn cymryd rhan, mae’nn gyfnod cyffrous iawn i’r prosiect.”
Mehefin
Dydd Mercher 16eg, 9.30-14.00 – Caffi Alys, Machynlleth
Dydd Iau 17eg, 15.00 – 17.00 – Cletwr, Tre’r Ddol
Dydd Gwener 18fed, 11.00 – 15.00 – Siop y Pethe, Aberystwyth
Dydd Sadwrn 19eg, 10.00 – 14.00 – RSPB Ynys Hir, Eglwysfach
Gorffennaf
Dydd Mercher 14eg, 9.30 – 14.00 – Farchnad Machynlleth
Dydd Iau 15eg, 15.00 – 17.00 – Cletwr, Tre’r Ddol
Dydd Sadwrn 17eg, 11.00 – 14.00 – Canolfan Bywyd Gwyllt Cors Dyfi
Mwy i gadarnhau
Nid oes angen cofrestri ar gyfer y sesiynau yma, jyst cipiwch mewn unrhyw bryd sy’n gyfleus i chi.
Mae ei’n sesiynau galw heibio rhithiol ar gael i gofrestri ar y dyddiadau isod. Gallwch gofrestri am rain drwy’r system archebu isod.
Postiadau blog diweddar
Rhannu Glasbrint y Prosiect
Dros yr 18mis diwethaf mae’r prosiect O’r Mynydd i’r Môr wedi bod yn gwahodd ystod eang o bobl i gymryd rhan yn cyd-ddylunio dyfodol lle mae natur a phobl yn ffynnu yn Ganolbarth Cymru. Mae’r prosiect wedi cynnal gweithdai, sgyrsiau, sesiynau galw heibio a channoedd o...
Archwilio gweledigaeth ar gyfer ein tir a môr gyda Menter Mynyddoedd Cambria
Yn ystod 2021 wnaeth Fenter Mynyddoedd Cambria a phrosiect O’r Mynydd i’r Môr cydweithio ar ymchwil gyda ffermwyr a rheolwyr adnoddau naturiol. Mae’r ymchwil hwn yn archwilio: Beth yw’r berthynas ar hyn o bryd rhwng busnes a natur? Beth yw dyheadau busnesau ar gyfer y...
Instagram Live – Diweddariad ar y prosiect gyda TAIR
Ar yr 14 Chwefror wnaeth TAIR, artistiaid preswyl y proeist, gael sgwrs efo Siân Stacey, Swyddog Ddatblygu'r Prosiect, am lle mae'r prosiect wedi cyrraedd a sut mae'r proses cyd-ddylunio yn mynd. Gallwch wylio'r sgwrs, sydd yn Gymraeg a Saesneg isod. Gweithdy...