O’r Mynydd i’r Môr / Summit to Sea
Syniadau chi – themâu o Weithdy 1Rhai wythnosau yn ôl fe wnaethon ni gynnal gweithdy ar-lein er mwyn trafod y weledigaeth ar gyfer prosiect O’r Mynydd i’r Môr, a cheisio darganfod y themau sydd o ddiddordeb i bobl yr ardal. Cawsom drafodaethau diddorol a chyffrous wrth i bawb fynd mewn grŵpiau bach i rannu barn a syniadau. Y ddau gwestiwn mawr oedd:
1. Sut all y tir a’r mor wneud mwy i ni ac i natur yn y dyfodol?
2. Sut allwn ni wneud hyn ddigwydd?
Roedd amrywiaeth o gefndiroedd a diddordebau ymysg y 50+ o bobl a fynychodd. Diolch yn fawr i’n hwylyswyr gwirfoddol a wnaeth helpu arwain y trafodaethau a chofnodi popeth. Dyma’r prif themau oedd yn bresenol yn y trafodaethau:
Pwysigrwydd y broses o gyd-ddylunio
- yn cynnwys ystod eang o pobl
Cysylltu pobl â natur
- Datblygu economi yn seiliedig ar natur
- Gwella hygyrchedd a chynhwysiant
- Addysg
Gwella ac ehangu bioamrywiaeth
- Morol – ystyried dyframaethu (aquaculture), stopio carthu (dredging), ecosystemau carbon glas
- Ehangu coetir – adfer y Coedwigoedd Glaw Celtaidd
- Llefydd mwy ‘gwyllt’ ochr yn ochr â chynhyrchu
Rheolaeth gynaliadwy o’r tir a’r mor
- Cefnogaeth bwrpasol ar gyfer ffermwyr cychwynnol
- Gwobrwyo am weithio ar raddfa tirwedd/mewn partneriaeth
- Cynnal arddangosiadau ar ffermydd i rannu arferion da.
Gallwch ddarllen y nodiadau o’r gweithdy yma. Rydyn ni dal i archwilio beth yw’r weledigaeth a’r themau cyn symyd ymlaen i’r cam nesaf o’r broses cyd-ddylunio (sef darganfod a datblygu syniadau penodol). Hoffwn glywed mwy o straeon a syniadau gan bobl sy’n byw a gweithio yn yr ardal er mwyn cario ‘mlaen i adeiladu’r weledigaeth. Er mwyn gweld sut gallwch ymuno efo’r broses ewch i tudalen Cymeryd Rhan, neu cofrestrwch am un o’n gweithdy yn fis Rhagfyr drwy ddilyn y linc isod.
- Dydd Iau, 10fed Rhagfyr 2020 – 12.30 – 13.30 – cofrestrwch yma
- Dydd Iau, 10fed Rhagfyr 2020 – 17.30 – 18.30 – cofrestrwch yma
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y nodiadau neu am y prosiect ebostiwch sian.stacey@ormynyddirmor.cymru.
Postiadau blog diweddar
Galwad am Artistiaid Preswyl
Cyhoeddi lansiad rhaglen artistiaid preswyl a fydd yn cymryd lle yn ardal y prosiect yma dros y flwyddyn nesaf
Straeon: Gwenno, hwylusydd cyd-ddylunio
Mae'r prosiect wedi bod yn gweithio gyda Gwenno Edwards sydd yn arbenigo yn cyd-ddylunio a gwaith a hwyluso. Mae Gwenno yn ymgynghorydd sy'n gweithio yn bennaf gyda’r sector gyhoeddus a dinesig. Mae hi wedi arwain prosiectau i ddylunio atebion ar gyfer problemau...
Gwerthusiad annibynnol o ddatblygiad cynnar y prosiect
Rhannu’r dysgu o werthusiad annibynnol cyfnod ddatblygu cynnar y prosiect.