O’r Mynydd i’r Môr / Summit to Sea
Ymunwch a’n tîm cyd-ddylunioWrth i sain y Côr Bore Bach o adar sy’n paratoi ar gyfer y tymor nythu gynyddu, rydym ni hefyd am gynyddu’r nifer o leisiau sydd yn rhan o’n proses cyd-ddylunio.
Rydyn ni’n credu y dylai’r weledigaeth ar gyfer y posiect, a’r syniadau sy’n cael eu datblygu gael eu creu mewn ffordd sy’n wirioneddol gydweithredol.. Rydym ni wedi cael ymateb gwych yn ystod ein gweithdai a drwy’rholiadur, ond rydym ni’n ymwybodol fod yna nifer fawr o bobl rydym ni dal heb eu cyrraed. Felly, rydym ni’n lansio’n rhaglen ‘Hwylyswyr Cymunedol’ fel ffordd o ddod a lleisiau ychwanegol, a safbwyntiau gwahanol i’r prosiect. Ac rydym ni angen eich help chi!
Rydym ni’n gobeithio cefnogi criw o bobl at ei gilydd a fyddai’n hoffi cynnal sgwrs gyda grŵp, o fewn eu cymuned, cwmni, cymdeithas neu gylch ffrindiau am O’r Mynydd i’r Môr. Bydd yr hwylyswyr yma yn helpu ddarganfod mwy o wybodaeth am y pethau sy’n wirioneddol bwysig i’w cymunedau nhw, wrth i ni ddychmygu dyfodol lle mae natur a phobl yn ffynnu efo’i gilydd. Bydd y themâu sy’n dod allan o’r sgyrsiau yma yn helpu llywio a siapio camau nesa’r prosiect wrth i ni gychwyn dylunio syniadau mewn mwy o fanylder. Byddwn ni hefyd yn rhannu y themau yma mewn gweithdai gyda’r cyhoedd er mwyn cael eu hadborth a rhoi cyfle i adeiladu ar y syniadau.

Rydym ni wedi paratoi pecyn cymorth ar gyfer unrhyw un a hoffai fod yn Hwylysydd Cymunedol. Gallwn bostio copi os ydych chi’n cysylltu â ni drwy e-bostio gwybodaeth@ormynyddirmor.cymru . Mae’r pecyn yma yn cynnwys syniadau am sut i wahodd pobl i’r sgwrs, sut i gynnal y sgwrs ei hun a beth i’w wneud yn dilyn y sgwrs.
Yn ddelfrydol bysa’r trafodaethau yma yn digwydd wyneb yn wyneb mewn caffi, neu wrth fynd am dro drwy’r coed, neu hyd yn oed ar yr un pryd a gwneud gweithgaredd fel garddio cymunedol. Ond am nawr bydd rhaid i’r sgyrsiau digwydd yn rhithiol, felly mae’r pecyn hefyd yn cynnwys gwybodaeth a chefnogaeth am sut i gynnal sgyrsiau ar-lein.
Os oes gennych chi ddiddordeb ymuno fel hwylysydd cymunedol, cwblhewch y ffurflen yma isod a byddwn ni yn cysylltu efo chi’n fuan. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau mae croeso i chi gysylltu efo sian.stacey@ormynyddirmor.cymru
Mae’n bosib cwblhau’r ffurflen yma yn y Gymraeg drwy ddewis yr iaith yma yn gornel dde’r ffurflen.
Postiadau blog diweddar
Rhannu Glasbrint y Prosiect
Dros yr 18mis diwethaf mae’r prosiect O’r Mynydd i’r Môr wedi bod yn gwahodd ystod eang o bobl i gymryd rhan yn cyd-ddylunio dyfodol lle mae natur a phobl yn ffynnu yn Ganolbarth Cymru. Mae’r prosiect wedi cynnal gweithdai, sgyrsiau, sesiynau galw heibio a channoedd o...
Archwilio gweledigaeth ar gyfer ein tir a môr gyda Menter Mynyddoedd Cambria
Yn ystod 2021 wnaeth Fenter Mynyddoedd Cambria a phrosiect O’r Mynydd i’r Môr cydweithio ar ymchwil gyda ffermwyr a rheolwyr adnoddau naturiol. Mae’r ymchwil hwn yn archwilio: Beth yw’r berthynas ar hyn o bryd rhwng busnes a natur? Beth yw dyheadau busnesau ar gyfer y...
Instagram Live – Diweddariad ar y prosiect gyda TAIR
Ar yr 14 Chwefror wnaeth TAIR, artistiaid preswyl y proeist, gael sgwrs efo Siân Stacey, Swyddog Ddatblygu'r Prosiect, am lle mae'r prosiect wedi cyrraedd a sut mae'r proses cyd-ddylunio yn mynd. Gallwch wylio'r sgwrs, sydd yn Gymraeg a Saesneg isod. Gweithdy...