Dychmygwch natur a pobl yn ffynnu, o’r mynydd i’r môr
Mae’r prosiect O’r Mynydd i’r Môr yn bartneriaeth wirfoddol yng nghanolbarth Cymru sy’n archwilio dulliau arloesol o weithio dros natur ar raddfa tirwedd
Rydym yn chwilio am ddull cyffredin, cytûn ac ysbrydoledig o ddefnyddio adnoddau naturiol, er lles natur a phobl.
Bydd hyn yn golygu cydweithio ar draws ffiniau perchenogaeth i ddatblygu datrysiadau beiddgar, wedi eu gwreiddio yn nhreftadaeth a diwylliant y tir a’r môr lleol.
Dros yr 18mis diwethaf mae’r prosiect O’r Mynydd i’r Môr wedi bod yn gwahodd ystod eang o bobl i gymryd rhan yn cyd-ddylunio dyfodol lle mae natur a phobl yn ffynnu yn Ganolbarth Cymru. Mae’r prosiect wedi cynnal gweithdai, sgyrsiau, sesiynau galw heibio a channoedd o...
Yn ystod 2021 wnaeth Fenter Mynyddoedd Cambria a phrosiect O’r Mynydd i’r Môr cydweithio ar ymchwil gyda ffermwyr a rheolwyr adnoddau naturiol. Mae’r ymchwil hwn yn archwilio: Beth yw’r berthynas ar hyn o bryd rhwng busnes a natur? Beth yw dyheadau busnesau ar gyfer y...
Ar yr 14 Chwefror wnaeth TAIR, artistiaid preswyl y proeist, gael sgwrs efo Siân Stacey, Swyddog Ddatblygu'r Prosiect, am lle mae'r prosiect wedi cyrraedd a sut mae'r proses cyd-ddylunio yn mynd. Gallwch wylio'r sgwrs, sydd yn Gymraeg a Saesneg isod. Gweithdy...
Ar yr 2il o Fedi, cynhaliwyd cyfarfod agored prosiect O’r Mynydd i’r Môr ar y cyd gyda Menter Mynyddoedd Cambria, ar fferm Moelgolomen Tal y Bont, Ceredigion. Y bwriad oedd rhannu datblygiadau’r prosiect a rhoi cyfle i mwy o bobl yr ardal fwydo mewn i’r broses cyd...
Ers Mai 2020 mae O’r Mynydd i’r Môr wedi bod yn cynnal trafodaethau gyda chymunedau o Fachynlleth i Aberystwyth, o Lanidloes yn y dwyrain i’r arfordir ar hyd Bae Ceredigion yn y gorllewin. Mae’r trafodaethau yma wedi canolbwyntio ar sut all cymunedau lleol, busnesau a...
We use cookies to ensure that we give you the best experience on our website. By navigating our site, you consent to our use of cookies.ClosePrivacy policy